Gwybodaeth ychwanegol gan y Mudiad Meithrin o'r cyfarfod ar 26 Medi 2024 ar eithrio ysgolion preifat yn y Bil.

 

Diolch am eich e-bost, dyma gynnwys sylwadau ychwanegol i'ch sylw.

 

I ymhelaethu ar yr ateb roddwyd, gallem edrych ar esiampl Gwynedd ble mae pob darpariaeth addysg statudol yn Gymraeg (yn y cynradd). Ceir weithiau un plentyn y flwyddyn fydd yn gadael Cylch Meithrin i fynd i ysgol breifat yn y Sir.  Yn wir, mae data'r blynyddoedd diwethaf yn dangos cyfradd dilyniant o 100% i addysg Gymraeg yng Ngwynedd.  Awgryma hyn nad yw polisi addysg yr Awdurdod Lleol wedi cyfrannu at shifft i’r sector breifat.  Nid oes gennym fynediad at ddata plant sy’n mynd i feithrinfeydd preifat neu at warchodwyr plant ond byddai canran sylweddol yn mynd i ysgolion statudol.